Application
fees waived

Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi, BA (Hons)

Swansea University, United Kingdom

 
Apply
Added

Subject ranking

Modern Languages
UK / Guardian
30th
Modern Languages
UK / QS
30th
Overall
UK / Guardian
37th

Costs

Course feesS$25.6K / year
Entertainment, books
food & rent
S$16.6K / year
Beer S$7
MacDonalds S$12
Cinema S$11
Coffee S$5
TotalS$42.3K / year

Entry requirements

A Level BBB
Diploma 3.0
International A Level BBB
International Baccalaureate 32

Scholarships

Swansea International Excellence Scholarship (Undergraduate)
£6000 for tuition
Limited quantity
Swansea International Excellence Scholarship (Postgraduate)
£4000 for tuition
Limited quantity
British Chevening Scholarships
100% for tuition and living expenses
Limited quantity

Information

Course
Code
Q564
University
Code
S93
Upcoming
Intakes
Sep 2024
Course
Website (External)
Pathway
Programmes
See pathways
University
Information
WHATSAPP
+65 9650 3225
HOTLINE
+65 6333 1300

Duration

3 years
Graduate
2027
About the course

Mae galw mawr am raddedigion sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu soffistigedig ac sydd hefyd yn deall materion fel statws cyfreithiol y Gymraeg, hawliau iaith, y dylanwadau ar y Gymraeg heddiw a sut y gellir cynllunio’n effeithiol ar gyfer dyfodol yr iaith.Yng ngeiriau Comisiynydd y Gymraeg: “Mae galw sylweddol ar hyn o bryd yn y meysydd gofal ac iechyd, gweinyddiaeth gyhoeddus, heddluoedd a sefydliadau trydydd sector. Mae’r cwrs hwn i’w groesawu fel cam tuag at greu gweithlu’r dyfodol.” Mae’r cwrs BA Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi’n cynnwys modiwlau fel:Amlddiwylliannedd a’r Gymraeg: Mae’r modiwl hwn yn edrych ar sut y mae syniadau am iaith, diwylliant a chenedl wedi datblygu yn ystod y canrifoedd diwethaf. Edrychir yn benodol ar dwf amrywiaeth heddiw a’r ffyrdd o ddelio gyda hyn. Edrychir ar sut y mae’r Gymraeg yn cael ei chynnwys a’i heithrio o drafodaethau ar amrywiaeth a pha fath o Gymru y gellir ei dychmygu yn y dyfodol.Cymraeg Ddoe a Heddiw: Yn rhan gyntaf y modiwl, byddwn yn ystyried prif gyfnodau hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg o gyfnod y Frythoneg i gyfnod Cymraeg Canol. Yn ail ran y modiwl, byddwn yn astudio dylanwadau cymdeithasol ar yr iaith Gymraeg. Rhoddir sylw penodol i drin a dehongli data’r Cyfrifiad. Gyda’r twf mewn addysg Gymraeg, technoleg a mewnfudo, beth yw’r heriau a’r cyfleoedd i’r iaith Gymraeg heddiw? Gyda dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg, pa fath o Gymraeg sy’n ‘safonol’ erbyn heddiw?Statws y Gymraeg: Dyma fodiwl sy’n cynnig trosolwg hanesyddol o statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg. I ddechrau, dadansoddir y Gymraeg fel iaith llywodraeth a chyfraith o gyfnod yr oesoedd canol i’r cyfnod modern cynnar. Yna, bydd myfyrwyr yn edrych ar ymgyrchoedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i adfer yr iaith yn y llysoedd, cyn edrych yn fanwl ar ddeddfau iaith yr ugeinfed ganrif yn 1942, 1967 a 1993. Ystyrir i ba raddau y llwyddwyd i adfer y Gymraeg ym mywyd swyddogol Cymru yn yr ugeinfed ganrif.Byddwch yn cael eich dysgu gan ddarlithwyr sy’n cynghori ac yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ar faterion fel y rhai uchod. Ymhlith staff yr Adran, mae Prifeirdd, awduron o fri ac enillwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Ceir cyfradd bodlonrwydd cyffredinol o 100% ymhlith myfyrwyr Adran y Gymraeg, Abertawe. Dyma a ddywed rhai o’n myfyrwyr am Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe:“Y penderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Abertawe oedd penderfyniad gorau fy mywyd. Mae fy amser yn y brifysgol wedi bod yn un bythgofiadwy, o ran fy astudiaethau a’m bywyd cymdeithasol. O ran yr Adran Gymraeg, maen nhw mor gefnogol. Ar unrhyw adeg, gallaf anfon e-bost at aelod o staff, neu fynd i’w swyddfa, a byddant yn barod i dreulio amser yn gweithio gyda fi.” (Rebecca Morgan)“Mae cael bod mewn adran gartrefol, mewn dinas mor fywiog a diddorol, a hynny o fewn deng munud i draethau’r Gŵyr yn gwneud Abertawe yn brifysgol fendigedig i astudio ynddi hi. Mi fyddai’n anodd meddwl am le brafiach.” (Grug Muse)

A local representative of Swansea University in Singapore is available online to assist you with enquiries about this course.