Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae plant yn dysgu a'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu i fod yn athro/athrawes arloesol a chreadigol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae’r lleoliadau ysgol mewn amrywiaeth eang o leoliadau. yn cynnwys ysgolion trefol a gwledig, ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig lle cewch gefnogaeth gan staff profiadol i ddysgu sut i baratoi cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd.Mae'r radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich hyfforddi fel athro cynradd wedi’ch cymhwyso’n arbennig i addysgu yng Nghymru ac mae'r un mor ddilys i'r rhai sydd eisiau dysgu yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae'n amser gwych i ddod i astudio i fod yn athro yng Nghymru. Mae addysg yng Nghymru yn cychwyn ar oes newydd gyffrous ac yn datblygu cwricwlwm o'r radd flaenaf i ysgolion. Mae Prifysgol Bangor, sydd ag enw rhagorol hirsefydlog am hyfforddiant ac addysg athrawon, mewn partneriaeth ag ysgolion o ansawdd uchel yng ngogledd Cymru sydd wedi chwarae rhan bwysig yn cynllunio'r cwrs y byddwch yn ei astudio. Cyflwynir y cwrs hwn fel rhan o'r Bartneriaeth CaBan rhwng ysgolion, Prifysgol Bangor, Consortiwm Rhanbarthol GwE a sefydliad ymchwil CIEREI. Gyda'n gilydd rydym yn rhannu'r nod cyffredin o addysgu'r genhedlaeth nesaf o addysgwyr o safon ryngwladol, a hynny o addysg gychwynnol athrawon hyd at ddysgu proffesiynol parhaus ar hyd eu gyrfa.Mae gan ein hysgolion partner fentoriaid sydd wedi'u hyfforddi'n dda a fydd yn cefnogi eich cynnydd tuag at fod yn athro rhagorol ac arloesol. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff ysgolion yn cynnig cefnogaeth ragorol a sesiynau dysgu ysgogol yn y brifysgol ac yn yr ysgol ar leoliad. Bydd myfyrwyr ar y cwrs cyfrwng Cymraeg hwn yn cael eu gosod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a byddwn yn eich cefnogi a'ch annog i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach mewn lleoliad addysgol trwy gydol y cwrs. Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
A local representative of Bangor University in Singapore is available online to assist you with enquiries about this course.